Welsh Slate – Archaeology and History of an Industry
Pris arferol
£45.00
Sêl
Ar un adeg, arferid gweld llechi o chwareli yng Nghymru ar doeau ledled y byd. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth cynifer â thraean o’r holl lechi to a gynhyrchwyd ledled y byd o Gymru, gan gystadlu â chwareli yn Ffrainc a’r Unol Daleithiau. Mae’r llyfr hwn yn olrhain y diwydiant o’i fan cychwyn yng nghyfnod y Rhufeiniaid, ei ddatblygiad canoloesol araf ac yna ei ehangiad enfawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg – yn ogystal â thrwy ei ddirywiad araf yn yr ugeinfed ganrif.
Mae Dr David Gwyn yn byw ym Mhen y Groes, yn rhanbarth llechi Nantlle yng Ngwynedd. Mae wedi gweithio yn y byd archaeoleg ers 20 mlynedd, ac mae’n gyd-diwtor ar gyrsiau chwareli llechi Archaeoleg Ddiwydiannol Ymarferol blynyddol a gynhelir gan Barc Cenedlaethol Eryri yn ei ganolfan astudiaethau amgylcheddol, Plas Tan y Bwlch.
| Awdur | David Gwyn, 2015 |
| Clawr | Caled |
| Maint | 225 x 288mm |
| Tudalennau | 291 |
| Darluniau | 248 |
| ISBN | 29781871184518 |
| Cludiant | £0.00 |