
Llechi Cymru – Archaeoleg a Hanes
Pris arferol
£45.00
Sêl

Ar un adeg, arferid gweld llechi o chwareli yng Nghymru ar doeau ledled y byd. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth cynifer â thraean o’r holl lechi to a gynhyrchwyd ledled y byd o Gymru, gan gystadlu â chwareli yn Ffrainc a’r Unol Daleithiau. Mae’r llyfr hwn yn olrhain y diwydiant o’i fan cychwyn yng nghyfnod y Rhufeiniaid, ei ddatblygiad canoloesol araf ac yna ei ehangiad enfawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg – yn ogystal â thrwy ei ddirywiad araf yn yr ugeinfed ganrif.
Mae Dr David Gwyn yn byw ym Mhen y Groes, yn rhanbarth llechi Nantlle yng Ngwynedd. Mae wedi gweithio yn y byd archaeoleg ers 20 mlynedd, ac mae’n gyd-diwtor ar gyrsiau chwareli llechi Archaeoleg Ddiwydiannol Ymarferol blynyddol a gynhelir gan Barc Cenedlaethol Eryri yn ei ganolfan astudiaethau amgylcheddol, Plas Tan y Bwlch.
CYNNWYS:- Rhagair: Yr Athro R. Merfyn Jones CBE
- Rhagymadrodd yr Awdur
- Cyflwyniad
- Tirweddau'r Diwydiant Llechi
- Archaeoleg Cynhyrchion Llechi
- Gwaith Cloddio a Thomennu
- Prif Ysgogwyr a Systemau Pŵer
- Draenio, Pwmpio ac Awyru
- Prosesu
- Systemau Trafnidiaeth Mewnol
- Cynnal a Chadw
- Swyddfeydd a Gwaith Gweinyddol
- Lechyd a Lles
- Anheddiad a Chymuned
- O'r Mynydd I'r Môr
- Trafnidiaeth Forol
- Y Byd Ehangach
- Llyfryddiaeth
- Rhestr o Ffigurau
- Rhestr o Brif Safleoedd
- Mynegai
Awdur | David Gwyn, 2015 |
Clawr | Hardback |
Maint | 225 x 288mm |
Tudalennau | 291 |
Darluniau | 248 |
ISBN | 9781871184525 |
Clundiant | £0.00 |