Mynydd Hiraethog: Darganfod Treftadaeth yr Uwchdiroedd
Pris arferol
£9.99
Sêl
Llyfr dwyieithog yw hwn.
Mynydd Hiraethog: The Denbigh Moors gan Robert J. Silvester gyda chyfraniadau gan Louise Barker a David Leighton, cyhoeddwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2011, llyfr dwyieithog â chlawr papur, 88 tudalen, 60 llun, ISBN 978-1-871184-40-2
Tirweddau ucheldiroedd Cymru yw nodwedd amlycaf y wlad ac yno cewch chi drysorfa anferth o olion archaeolegol a threftadaeth ein gwlad. Oherwydd y dystiolaeth eithriadol sydd yno o fywydau pobl ar draws miloedd o flynyddoedd, maent o bwys rhyngwladol. Yn y llyfr hwn fe adroddir hanes can milltir sgwâr Mynydd Hiraethog. Gan i bobl gyfanheddu neu ddefnyddio’r bryniau hyn dros filoedd ar filoedd o flynyddoedd, mae olion eu gweithgareddau i’w gweld yn y dirwedd hyd heddiw. Cewch ddisgrifiad o’r gweithgareddau hynny yng ngoleuni’r darganfyddiadau diweddar. Adroddir hanes to ar ôl to o werin bobl mewn amgylchedd a fodlonai lu o’u hanghenion ond a allai, ar adegau, fod yn arw ac yn her.
CYNNWYS
- Rhagair
- Rhagymadrodd
- Tirwedd Hiraethog
- Astudio Hiraethog
- Hanes Hiraethog
- Claddedigaethau a Defodau Cynhanesyddol
- Anheddu ac Amaethu Cynhanesyddol
- Anheddu ac Amaethu yn y Cyfnod Hanesyddol
- Cyfoeth y Gweundir
- Llwybrau a Ffyrdd
- Yr Ystadau Mawrion
- Yr Ugeinfed Ganrif
- Safleoedd i Ymweld â Hwy
- Teithiau Cerdded
- Cael gwybod rhagor
- Cyfeiriadau a dallen pellach
Awdur | Robert J. Silvester, Louise Barker, David Leighton, 2011 |
Clawr | Meddal |
Maint | 190 x 230mm |
Tudalennau | 88 |
Darluniau | 60 |
ISBN | 9781871184402 |