The Denbigh Moors: Discovering Upland Heritage

Mynydd Hiraethog: Darganfod Treftadaeth yr Uwchdiroedd

Pris arferol £9.99 Sêl

Llyfr dwyieithog yw hwn.

Mynydd Hiraethog: The Denbigh Moors gan Robert J. Silvester gyda chyfraniadau gan Louise Barker a David Leighton, cyhoeddwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2011, llyfr dwyieithog â chlawr papur, 88 tudalen, 60 llun, ISBN 978-1-871184-40-2

Tirweddau ucheldiroedd Cymru yw nodwedd amlycaf y wlad ac yno cewch chi drysorfa anferth o olion archaeolegol a threftadaeth ein gwlad. Oherwydd y dystiolaeth eithriadol sydd yno o fywydau pobl ar draws miloedd o flynyddoedd, maent o bwys rhyngwladol. Yn y llyfr hwn fe adroddir hanes can milltir sgwâr Mynydd Hiraethog. Gan i bobl gyfanheddu neu ddefnyddio’r bryniau hyn dros filoedd ar filoedd o flynyddoedd, mae olion eu gweithgareddau i’w gweld yn y dirwedd hyd heddiw. Cewch ddisgrifiad o’r gweithgareddau hynny yng ngoleuni’r darganfyddiadau diweddar. Adroddir hanes to ar ôl to o werin bobl mewn amgylchedd a fodlonai lu o’u hanghenion ond a allai, ar adegau, fod yn arw ac yn her.

CYNNWYS


  • Rhagair
  • Rhagymadrodd
  • Tirwedd Hiraethog
  • Astudio Hiraethog
  • Hanes Hiraethog
  • Claddedigaethau a Defodau Cynhanesyddol
  • Anheddu ac Amaethu Cynhanesyddol
  • Anheddu ac Amaethu yn y Cyfnod Hanesyddol
  • Cyfoeth y Gweundir
  • Llwybrau a Ffyrdd
  • Yr Ystadau Mawrion
  • Yr Ugeinfed Ganrif
  • Safleoedd i Ymweld â Hwy
  • Teithiau Cerdded
  • Cael gwybod rhagor
  • Cyfeiriadau a dallen pellach 

 

Awdur Robert J. Silvester, Louise Barker, David Leighton, 2011
Clawr Meddal
Maint 190 x 230mm
Tudalennau 88
Darluniau 60
ISBN 9781871184402