Archaeoleg Ucheldir Gwent - The Archaeology of Upland Gwent

Archaeoleg Ucheldir Gwent - The Archaeology of Upland Gwent

Pris arferol £14.95 Sêl

Llyfr dwyieithog yw hwn.

Ffurfiwyd cymeriad arbennig cymoedd y de a’u cymunedau gan gyfuniad o’u tirwedd a’u hanes, ac yn y blaenau cewch drysorfa o henebion archaeolegol sy’n dangos sut mae pobl wedi byw, wedi gweithio ac wedi amaethu yno o’r oesoedd cynharaf hyd at y gorffennol diweddar. 

Mae’r llyfr hwn gan yr awdur lleol nodedig Frank Olding yn mynd â’r darllenydd ar daith o offer fflint a bryngaerau cynhanes ymlaen i wrthryfel y Siartwyr a diwydiannau’r ugeinfed ganrif. 

Mae’n gyforiog o luniau a dynnwyd ar lawr gwlad ac o’r awyr, ac o fapiau, cynlluniau a lluniau hanesyddol. Cewch hefyd eitemau nodwedd sy’n cynnig mewnwelediadau gan arbenigwyr. Drwy hynny i gyd mae’r llyfr yn mawrygu archaeoleg a hanes blaenau Gwent a’r ardaloedd cyfagos.

Cynnwys



  • Rhagair gan yr Athro William Manning
  • Diolchiadau
  • Rhagymadrodd

Pennod 1:

  • Cyflwyniad
  • Tirwedd y blaenau
  • Hanes blaenau Gwent
  • Eitem Nodwedd 1: Hynafiaethwyr ac Archaeolegwyr (Frank Olding)

Pennod 2:
  • Cymunedau Cynhanesyddol y blaenau
  • Eitem Nodwedd 2: Twmbarlwm (Ray Howell)

Pennod 3:

  • Y Rhufeiniaid ym mlaenau Gwent
  • Eitem Nodwedd 3: Caer Rufeinig Gelli-gaer(Richard Brewer)

Pennod 4:

  • Yr Oesoedd Canol Cynnar a’r Oesoedd Canol
  • Yr Oesoedd Canol Cynnar: Cerrig Arysgrifedig a Chloddiau Traws-cefnennau
  • Eitem Nodwedd 4: Eglwysi’r blaenau – Bedwellte ac Eglwys Sant Illtud, Llanhiledd (Edith Evans)
  • Anheddu’r blaenau yn yr Oesoedd Canol
  • Eitem Nodwedd 5: Castell Meredydd, Machen (Jeremy Knight)

Pennod 5:

  • Archaeoleg Ddiwydiannol
  • Diwydiannau Cynnar
  • Y Chwyldro Diwydiannol
  • Haearn a gwneud haearn
  • Eitem Nodwedd 6: Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon
  • (Peter Wakelin)
  • Carreg galch
  • Cynhyrchu glo a haearn
  • Datblygu’r cysylltiadau cludiant
  • Eitem Nodwedd 7: Tirwedd Ddiwydiannol Cwm Clydach (John van Laun)
  • Tân a haearn
  • Twf y llafurlu
  • Eitem Nodwedd 8: Mynwent Colera Cefn Golau (Frank Olding)
  • Gwrthryfel y Siartwyr – gwrthdystio a gwrthsefyll
  • Y Diwydiant Glo
Pennod 6:
  • Heddiw ac Yfory

TAITH DYWYS
  • Comin Gelli-gaer – Trysorfa Archaeolegol
  • Llyfryddiaeth a darlleniadau pellach
  • I Gael Gwybod Rhagor
  • Mynegai 
AwdurFrank Olding, 2016
ClawrSoftback
Maint216 x 229mm
Tudalennau160
Lluniau91
ISBN9781871184570