The Story of a House on a Hill (eBook)

Hanes Tŷ ar y Mynydd (eLyfr)

Pris arferol £0.00 Sêl

Ffrwyth ymweliadau a gwaith ymchwil Panel Ieuenctid Haneswyr Ceredigion neu’r CHIPs yw Hanes Tŷ ar y Mynydd. Bydd y grŵp yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd yn swyddfeydd y Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth a’i amcanion yw dysgu sgiliau newydd ac ymchwilio i ‘dreftadaeth ddisylw’ Ceredigion.


Mae’r llyfr yn disgrifio sut yr aethant ati i gofnodi ffermdy adfeiliedig ym mryniau anghysbell gogledd Ceredigion a’r broses o ymchwilio i’w treftadaeth leol a’i diogelu. Casgliad o ddyfyniadau o’u sgyrsiau, ac o’u hatgofion am ymweld â’r tŷ ac archwilio’r dirwedd o’i gwmpas, yw’r testun.

Tynnwyd y lluniau gan aelodau Panel Ieuenctid Haneswyr Ceredigion.