Discovering Pendinas Hillfort, Penparcau, Aberystwyth (eBook)

Darganfod Bryngaer Pendinas, Penparcau, Aberystwyth (eLyfr)

Pris arferol £0.00 Sêl

Llyfr dwyieithog yw hwn


Mae’r llyfr hwn yn dathlu drwy nifer o ddarluniadau gwaith Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas (2022–24) a grëwyd er mwyn darganfod mwy am y fryngaer drawiadol hon o’r Oes Haearn, sy’n nodwedd mor amlwg o’r tir uwchlaw Penparcau, Aberystwyth. Roedd gweithgareddau niferus y prosiect yn cynnwys gwaith cloddio, sgyrsiau, teithiau cerdded tywysedig, gweithio gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol a chlirio eithin ar draws ardal helaeth, yn ogystal â dwy Ŵyl Archaeoleg Pendinas a murlun mewn ysgol!

Roedd Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas yn brosiect partneriaeth dwy flynedd (2022–24) rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gyda chymorth ychwanegol gan Cadw.

Cynnwys

  • Rhagair gan Ben Lake AS 3
  • Penparcau Cyn Hanes: Darganfod Pendinas! 5
  • Pendinas: Prifddinas Hynafol Canolbarth Cymru 8
  • Cyn Bryngaer Pendinas 11
  • Y Geredigion Geltaidd 13
  • Cloddio Pendinas 20
  • Byddin o Wirfoddolwyr 40
  • Ar ôl y Fryngaer 44
  • Mapio Pendinas 45
  • Cofgolofn Wellington 48
  • Creu Lle i Fyd Natur 51
  • Y Genhedlaeth Nesaf: Gweithio gydag Ysgol Llwyn yr Eos 54
  • Cael Gwybod Mwy! 57
  • Llinell Amser 60


• Awdur: Toby Driver & Ken Murphy
 Beca Davies, Jon Dollery, Luke Jenkins, Chloe Griffiths & Nicola Roberts
• Dyddiad Cyhoeddi: 27 July 2024
• Tudalennau: 60
• Lluniau: 60
• ISBN: 978-1-871184-68-6