Preifatrwydd

  1. Beth rydym yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth?

Pan brynwch rywbeth o’n siop, fe fyddwn, fel rhan o’r broses prynu a gwerthu, yn casglu’r wybodaeth bersonol a roddwch i ni, er enghraifft, eich enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost.

Pan borwch yn ein siop, byddwn hefyd yn derbyn cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP) eich cyfrifiadur yn awtomatig er mwyn cael gwybodaeth sy’n ein helpu i ddysgu am eich porwr a’ch system weithredu.

 

  1. Caniatâd

Sut rydych chi’n cael fy nghaniatâd?

Pan roddwch wybodaeth bersonol i ni i gwblhau pryniant, gwireddu eich cerdyn credyd, rhoi archeb, trefnu danfoniad neu ddychwelyd eitem a brynwyd, rydym yn cymryd eich bod chi’n rhoi eich caniatâd i’w chasglu a’i defnyddio at y rheswm penodol hwnnw yn unig.

Os gofynnwn i chi am wybodaeth bersonol am reswm eilaidd, fel marchnata, byddwn naill ai’n gofyn i chi’n uniongyrchol am eich caniatâd penodol, neu’n rhoi cyfle i chi wrthod ei roi.

Sut y gallaf dynnu fy nghaniatâd yn ôl?

Os byddwch yn newid eich meddwl ar ôl rhoi eich caniatâd, cewch dynnu’n ôl y caniatâd a roddasoch i ni i gysylltu â chi, at bwrpas parhau i gasglu, defnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth, ar unrhyw adeg, drwy gysylltu â shop@rcahmw.gov.uk neu drwy anfon e-bost i:

Siop CBHC

Ffordd Penglais

Aberystwyth 

Ceredigion

SY23 3BU

 

  1. Datgelu

Gallwn ddatgelu’ch gwybodaeth bersonol os oes gofyn i ni wneud hynny o dan y gyfraith neu os torrwch ein Telerau Gwasanaeth.

 

  1. Shopify

Mae ein siop wedi’i lletya ar Shopify Inc. Mae hyn yn darparu’r platfform e-fasnach ar-lein sy’n caniatáu i ni werthu ein cynhyrchion a’n gwasanaethau i chi.

Caiff eich data ei storio gan ddefnyddio storfa ddata a chronfeydd data Shopify, a’r rhaglen Shopify gyffredinol. Caiff eich data ei storio ar weinydd diogel y tu ôl i fur gwarchod.

Talu:

Os dewiswch borth taliadau uniongyrchol i gwblhau eich pryniant, fe fydd Shopify yn storio’r data sydd ar eich cerdyn credyd. Caiff y data ei amgryptio yn unol â Safon Diogeledd Data y Diwydiant Cardiau Talu (PCI-DSS). Caiff data eich pryniant ei storio cyhyd ag y bo’i angen i gwblhau eich pryniant, ac ar ôl cwblhau eich pryniant caiff ei ddileu ar unwaith.

Mae pob porth taliadau uniongyrchol yn cydymffurfio â Safon Diogeledd Data y Diwydiant Cardiau Talu, sy’n cael ei rheoli gan Gyngor Safonau Diogeledd y Diwydiant Cardiau Talu, sef cyd-ymdrech a sefydlwyd gan frandiau fel Visa, Mastercard, American Express a Discover.

Mae gofynion Safon Diogeledd Data y Diwydiant Cardiau Talu yn helpu i sicrhau bod y wybodaeth ar gardiau credyd yn cael ei thrin yn ddiogel gan ein siop a’i darparwyr gwasanaeth.

I gael mwy o wybodaeth, darllenwch Delerau Gwasanaeth Shopify (https://www.shopify.com/legal/terms) neu Ddatganiad Preifatrwydd Shopify (https://www.shopify.com/legal/privacy).

 

  1. Gwasanaethau Trydydd Parti

Yn gyffredinol, ni fydd y darparwyr trydydd parti a ddefnyddiwn ond yn casglu, defnyddio a datgelu gwybodaeth i’r graddau y mae hynny’n angenrheidiol i ganiatáu iddynt gyflawni’r gwasanaethau a ddarparant i ni.

Sut bynnag, mae gan rai darparwyr gwasanaeth trydydd parti, er enghraifft pyrth taliadau a phroseswyr trafodion talu eraill, eu polisïau preifatrwydd eu hunain mewn perthynas â’r wybodaeth y mae gofyn i ni ei rhoi iddynt mewn perthynas â’ch trafodion prynu.

Argymhellwn y dylech ddarllen polisïau preifatrwydd y darparwyr hyn er mwyn deall sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin ganddynt.

Yn arbennig, cofiwch y gall rhai darparwyr fod wedi’u lleoli mewn, neu feddu ar gyfleusterau sydd wedi’u lleoli mewn, awdurdodaeth wahanol i’ch un chi neu ein hun ni. Felly os dewiswch fwrw ymlaen â phryniant sy’n golygu bod angen defnyddio gwasanaethau trydydd parti, yna mae’n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn ddarostyngedig i gyfreithiau’r awdurdodaeth(au) lle y mae’r darparwr gwasanaeth hwnnw neu ei gyfleusterau wedi’u lleoli.

Er enghraifft, os ydych wedi’ch lleoli yng Nghanada ac os caiff eich pryniant ei brosesu gan borth taliadau sydd wedi’i leoli yn yr Unol Daleithiau, yna gall eich gwybodaeth bersonol a ddefnyddir i gwblhau’r pryniant hwnnw gael ei datgelu o dan ddeddfwriaeth yr Unol Daleithiau, gan gynnwys y Ddeddf Gwladgarwyr.

Ar ôl i chi adael gwefan ein siop, neu ar ôl i chi gael eich ailgyfeirio i wefan neu raglen trydydd parti, ni fyddwch bellach dan reolaeth y Polisi Preifatrwydd hwn na Thelerau Gwasanaeth ein gwefan.

 

Cysylltau

Pan gliciwch ar gysylltau yn ein siop, mae’n bosibl y byddant yn eich cyfeirio i ffwrdd o’n gwefan. Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd safleoedd eraill ac rydym yn eich annog i ddarllen eu datganiadau preifatrwydd hwy.

Google Analytics:

Mae ein siop yn defnyddio Google Analytics i’n helpu i ddysgu am ymweliadau â’n siop a’r tudalennau sy’n cael eu gwylio.

 

  1. Diogeledd

I ddiogelu eich gwybodaeth bersonol, cymerwn ragofalon rhesymol a dilynwn yr arferion gorau i sicrhau nad yw’n cael ei cholli, ei chamddefnyddio, ei chyrchu, ei datgelu, ei newid na’i dinistrio.

Os rhowch y wybodaeth ar eich cerdyn credyd i ni, caiff y wybodaeth ei hamgryptio gan ddefnyddio technoleg haen socedi diogel (SSL) a’i storio gydag amgryptiad AES-256. Er nad yw unrhyw ddull trawsyrru dros y Rhyngrwyd na dull storio electronig yn gyfan gwbl ddiogel, dilynwn holl ofynion Safon Diogeledd Data y Diwydiant Cardiau Talu a gweithredwn safonau ychwanegol a dderbynnir yn gyffredinol gan y diwydiant diogeledd.

 

  1. Cwcis

Dyma restr o’r cwcis a ddefnyddiwn. Rydym wedi’u rhestru yma er mwyn i chi allu penderfynu a ydych am optio allan ai peidio.

_session_id, tocyn unigryw, sesiynol, Yn caniatáu i Shopify storio gwybodaeth am eich sesiwn (cyfeiriwr, tudalen lanio, ac ati).

 _shopify_visit, ni ddelir data, yn para am 30 munud ers yr ymweliad diwethaf, Yn cael ei ddefnyddio gan draciwr ystadegau mewnol darparwr ein gwefan i gofnodi nifer yr ymweliadau.

_shopify_uniq, ni ddelir data, yn dod i ben ganol nos (mewn perthynas â’r ymwelydd) y diwrnod wedyn, Yn cyfrif nifer yr ymweliadau â’r siop gan gwsmer unigol.

cert, tocyn unigryw, yn parhau am bythefnos, Yn storio gwybodaeth am gynnwys eich cert.

_secure_session_id, tocyn unigryw, sesiynol

storefront_digest, tocyn unigryw, amhenodol, Os oes gan y siop gyfrinair, defnyddir hwn i benderfynu a oes gan yr ymwelydd presennol fynediad.

_ga, _ga_<container-id> Defnyddir y cwcis hyn gan Google Analytics i helpu i goladu ystadegau i ddweud wrthym sut mae’n hymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Bydd ein staff yn defnyddio’r wybodaeth honno mewn adroddiadau agregedig i helpu i fesur y profiad a gaiff ein hymwelwyr, a sut y gallem ei wella.

 

  1. Oedran Cydsynio

Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n haeru eich bod chi o leiaf wedi dod i lawn oed yn y man lle rydych chi’n byw, neu eich bod chi wedi dod i lawn oed yn y man lle rydych chi’n byw a’ch bod chi wedi rhoi caniatâd i ni adael i unrhyw ddibynyddion dan oed sydd gennych ddefnyddio’r wefan hon.

 

  1. Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn

Cadwn yr hawl i newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg, felly byddwch cystal ag edrych arno’n aml. Bydd unrhyw newidiadau’n dod i rym y foment y cânt eu postio ar y wefan.

 

Cwestiynau a Manylion Cysylltu

Os hoffech gyrchu, cywiro, newid neu ddileu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch sydd yn ein meddiant, neu wneud cwyn, neu ofyn am fwy o wybodaeth, e-bostiwch ni yn shop@rcahmw.gov.uk neu anfonwch lythyr i:

Siop CBHC

Ffordd Penglais

Aberystwyth 

Ceredigion

SY23 3BU