Wales and the U-boat War: Sinking, Survival and a Dog Named Lotte (eBook)

Cymru a Rhyfel y Llongau-U: Suddo, Goroesi a Gast o’r Enw Lotte (eLyfr)

Pris arferol £0.00 Sêl

Gan fod stori ynghlwm wrth bob digwyddiad ers dechrau hanes y ddynoliaeth, nod Prosiect Llongau-U Cymru 1914–18 oedd dadlennu straeon a oedd heb eu hadrodd am Gymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf ar y môr. Rhwng 1914 a 1918, suddodd llongau tanfor yr Almaen – neu’r llongau-U – o leiaf bum mil o longau i geisio llwgu Prydain a’i gorfodi i ildio. Suddwyd bron dau gant o longau oddi ar lannau Cymru. Dros ddwy flynedd, mae’r prosiect wedi nodi a delweddu dau ar bymtheg o longddrylliadau o’r Rhyfel Byd Cyntaf sy’n gorwedd ar wely’r môr ar hyd ein glannau. Ochr yn ochr â hynny, yr ydym wedi dod o hyd i rai straeon rhyfeddol sydd wedi mynd ar goll yn niwl amser. Yr hyn a’n trawodd ni fwyaf yw nad straeon am ‘arwyr rhyfel’ traddodiadol mo’r mwyafrif ohonyn nhw, ond rhai am bobl gyffredin a’u cymunedau. Yn y cyhoeddiad hwn, yr ydym wedi casglu ynghyd rai o’n hoff straeon, ond mae llawer, llawer mwy ohonynt i’w cael. Cafodd cyfraniad sylweddol Cymru i ymdrech y rhyfel effaith fawr a maith ar gymunedau’n gwlad.

Gobeithio y bydd y straeon hyn yn eich ysbrydoli chi i ddarganfod rhagor ar ein gwefan: www.prosiectllongauu.cymru