Rhannu ein gorffennol digidol (eLyfr)
Pris arferol
£0.00
Sêl
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ers 1908, mae’r Comisiwn Brenhinol wrthi’n helpu i arwain y cofnodi, y dehongli a’r hyrwyddo ar y dreftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol sydd wedi deillio o’r miloedd o flynyddoedd o ryngweithio a fu rhwng pobl ac amgylchedd Cymru.
Mae’n strategaeth arolygu ni’n cynnwys gwneud prosiectau thematig, neu brosiectau ynghylch meysydd penodol, i ddatblygu’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth o agweddau ar ein treftadaeth sydd heb gael digon o sylw, sydd o bwys eithriadol neu sydd mewn perygl oherwydd esgeulustra, difrod amgylcheddol neu ddatblygiadau.
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sef archif y Comisiwn, yw’r archif cenedlaethol awdurdodol ynghylch amgylchedd hanesyddol Cymru. Ynddo ceir deunydd sy’n ffrwyth gwaith cofnodi ac ymchwil y Comisiwn, adneuon swyddogol a rhoddion preifat. Yng nghasgliad archif gweledol mwyaf Cymru, ceir dros 2 filiwn o ffotograffau a 50,000 o luniadau ynghyd â miliynau o dudalennau o destun. Mae’r archif ar agor i bawb. Mae mynediad iddo’n ddi-dâl ac mae yno dîm ymholiadau pwrpasol i ddarparu gwybodaeth. Gellir ei gyrchu yn ein llyfrgell neu drwy Coflein, ein cronfa ddata ar-lein.