Pontcysyllte Aqueduct & Canal: Nomination as a World Heritage Site
Pris arferol
£14.95
Sêl
Dim ond yn yr iaith Saesneg y mae'r llyfr hwn ar gael.
Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn eicon o Chwyldro Diwydiannol cyntaf y byd ac am ddau gan mlynedd hi oedd y draphont uchaf ar unrhyw gamlas yn y byd.
Cafodd dwy draphont ddŵr arloesol Pontcysyllte a’r Waun eu codi yng ngogledd-ddwyrain Cymru rhwng 1795 a 1808 yn rhan o un filltir ar ddeg o’r Gamlas Arwrol gyntaf yn oes aur codi camlesi, a hwy oedd gwaith mwyaf dau o’r dynion galluocaf yn hanes peirianneg sifil, Thomas Telford a William Jessop.
Yn y gyfrol awdurdodol hon, sy’n gyforiog o ddarluniau, fe asesir pwysigrwydd rhyngwladol y cyfan, manylir ar lwybr y gamlas ac fe drafodir y gwaith cadwraeth. Nod llunio’r gyfrol yw cyfiawnhau’r cais i gynnwys y gyfres hon o henebion, sydd o bwys byd-eang, ar Restr Treftadaeth y Byd.
Cyhoeddir y gyfrol gan y Comisiwn Brenhinol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gyda chyllid gan Cadw ac ar ran Grŵp Llywio Safleoedd Treftadaeth Byd, grŵp a gyd-arweinir hefyd gan Ddyfrffyrdd Prydain.
Awdur | Peter Wakelin, 2008 |
Clawr | Meddal |
Maint | 210 x 297mm |
Tudalennau | 232 |
Darluniau | 401 |
ISBN | 9781871184310 |