John Nash - Architect in Wales (eBook)
John Nash - Architect in Wales (eBook)
John Nash - Architect in Wales (eBook)
John Nash - Architect in Wales (eBook)

John Nash - Pensaer yng Nghymru (eLyfr)

Pris arferol £2.99 Sêl

Mae'r teitl hwn bellach allan o brint, ond mae ar gael fel eLyfr.

Llyfr dwyieithog yw hwn.

Mae'r astudiaeth hon yn ymchwilio i drawsnewidiad John Nash yn niwedd y ddeunawfed ganrif yng Nghymru o fod yn dirfesurydd a saer coed di-nod i fod yn bensaer medrus a blaengar.

Mae John Nash: Pensaer yng Nghymru yn ganlyniad cydweithio rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Ysgrifennwyd y testun gan Richard Suggett, aelod o staff y Comisiwn Brenhinol, ac fe'i cyhoeddir i gyd-fynd ag arddangosfa ar waith Nash yng Nghymru, gan dynnu'n bennaf ar gasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol, a gyd-drefnwyd gan D. Michael Francis. Y mae'r llyfr yn olrhain datblygiad pensaerni'ol hynod Nash yng Nghymru. Disgrifir dros 40 o safleoedd yn y catalog, gan gynnwys nifer o adeiladau a briodolir i Nash am y tro cyntaf, yn arbennig Bwthyn Emlyn a Thloty Meidrim. Mae paratoi ar gyfer yr astudiaeth hon wedi dod a rhai dyluniadau pwysig i'r golwg ynghyd a thystiolaeth ddogfennol newydd yn ymwneud a chomisiynau cynnar Nash. Dylid son yn arbennig am y dyluniadau gan Nash ei hun a atgynhyrchir yma am y tro cyntaf: cynllun Bwthyn Emlyn a golygwedd Dolaucothi. Ychydig o ddyluniadau gan Nash y gwyddys amdanynt, a rhain yw'r cynharaf i oroesi. Gobeithir y bydd y gyfres bwysig o ddogfennau yn ymwneud ag ailwampiad Nash o ffrynt gorllewinol Eglwys Gadeiriol Tyddewi, gyda'r dyluniadau hynod gan Pugin a Repton, yn destun arddangosfa a chyhoeddiad yn y dyfodol.

Cynnwys

  • Cydnabyddiaethau
  • Rhagair
  • Agoriad: Nash a Chaerfyrddin - 9
  • Pensaernïaeth Gyhoeddus - 21
  • Y Filȃu - 37
  • Adeiladau a Thirwedd - 65
  • Cymhlethdodau Pictiwrésg - 85
  • Diweddglo: Cofgolofn Picton - 107
  • Catalog Pensaernïol - 107
  • Rhestr Darluniau - 129
Awdur Richard Suggett, 1995
Tudalennau133
ISBN1-871184-16-9