
Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes (eLyfr)
Pris arferol
£14.99
Sêl
Cyhoeddiad dwyieithog yw hwn, gyda'r Gymraeg a'r iaith Saesneg yn yr un llyfr.
Mae'r teitl hwn bellach allan o brint, ond mae ar gael fel eLyfr.
Mae’r 200 o luniau yn y llyfr hwn wedi’u dewis o archif helaeth Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac fe ânt â ni i mewn i gartrefi Cymru o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw. Cynigiant gipolwg prin ar yr hyn a geid y tu ôl i ddrysau caeedig, o du mewn y bythynnod distadlaf a thai teras y trefi ymlaen i ystafelloedd hynod foethus y plastai mawr. Drwyddynt cawn olwg unigryw ar y ffyrdd y mae pobl wedi byw eu bywydau beunyddiol yng Nghymru.