O Fudo i Wydnwch: Profiadau Asiaid Cymru (eLyfr)
Pris arferol
£0.00
Sêl
Llyfr dwyieithog yw hwn
Mae’r llyfr hwn yn darlunio gwaith Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru a lansiwyd ym mis Hydref 2023 gyda’r nod o dynnu sylw at gyfraniadau nodedig cymunedau mudol Asiaidd at fywyd Cymru mewn termau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Cofnododd y prosiect straeon mudo personol, yn enwedig am Asiaid o Uganda a gafodd eu halltudio gan Idi Amin yn 1972, gan gynnwys y rhai a gafodd lety yn y gwersyll derbyn yn Nhonfanau, Meirionnydd, gogledd Cymru. Roedd y prosiect yn olrhain sut mae gweithgareddau Asiaid Cymru wedi creu amrywiaeth yn nhirwedd Cymru ac wedi cofnodi mannau pwysig o arwyddocâd diwylliannol, crefyddol a hanesyddol yng Nghymru. Rydym yn rhoi’r llyfr hwn yn anrheg i chi ac mae’n cynnwys portreadau o’r bobl a gyfrannodd yn hael eu straeon am fudo gorfodol.
Mae’r llyfr hefyd yn cynnig gwybodaeth am rai mannau addoli pwysig. Mae’r cyfweliadau sydd wedi’u recordio ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru a byddant yn gofnod ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Bydd cofnod o’r chwe deg tri o lefydd o arwyddocâd crefyddol a chymdeithasol sydd wedi’u cofnodi ar gael ar Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol. Ariannwyd Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
Cynnwys:
- Rhagair gan Christopher Catling t.3
- Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru t.6
- Stori Asiaid Uganda t.10
- Gwersyll Ail-leoli Tonfanau t.14
- Treftadaeth Adeiladu Asiaidd Cymru t.16
- Cyflwyniad i’r Astudiaethau Achos Dethol t.20
- Ein Cyfranwyr t.34
- Cwrdd â’r Tîm! t.50
- Seminarau Misol y Prosiect t.55
- Gwybodaeth Bellach a Darllen t.57
- Diolchiadau t.59
Awduron: Perminder Dhillon, Radha Patel, Sai Giridhar, Robin Chaddah-Duke, Jyoti Ramjee & Nicola Roberts
- Dyddiad Cyhoeddi: 21 Tachwedd 2024
- Tudalennau: 61
- Lluniau: 78
- ISBN: 978-1-871184-70-9