From Migration to Resilience: Welsh Asian Experiences (eBook)

O Fudo i Wydnwch: Profiadau Asiaid Cymru (eLyfr)

Pris arferol £0.00 Sêl

Llyfr dwyieithog yw hwn

Mae’r llyfr hwn yn darlunio gwaith Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru a lansiwyd ym mis Hydref 2023 gyda’r nod o dynnu sylw at gyfraniadau nodedig cymunedau mudol Asiaidd at fywyd Cymru mewn termau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Cofnododd y prosiect straeon mudo personol, yn enwedig am Asiaid o Uganda a gafodd eu halltudio gan Idi Amin yn 1972, gan gynnwys y rhai a gafodd lety yn y gwersyll derbyn yn Nhonfanau, Meirionnydd, gogledd Cymru. Roedd y prosiect yn olrhain sut mae gweithgareddau Asiaid Cymru wedi creu amrywiaeth yn nhirwedd Cymru ac wedi cofnodi mannau pwysig o arwyddocâd diwylliannol, crefyddol a hanesyddol yng Nghymru. Rydym yn rhoi’r llyfr hwn yn anrheg i chi ac mae’n cynnwys portreadau o’r bobl a gyfrannodd yn hael eu straeon am fudo gorfodol.
Mae’r llyfr hefyd yn cynnig gwybodaeth am rai mannau addoli pwysig. Mae’r cyfweliadau sydd wedi’u recordio ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru a byddant yn gofnod ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Bydd cofnod o’r chwe deg tri o lefydd o arwyddocâd crefyddol a chymdeithasol sydd wedi’u cofnodi ar gael ar Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn Brenhinol o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol. Ariannwyd Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Cynnwys:

  • Rhagair gan Christopher Catling t.3
  • Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru t.6
  • Stori Asiaid Uganda t.10
  • Gwersyll Ail-leoli Tonfanau t.14
  • Treftadaeth Adeiladu Asiaidd Cymru t.16
  • Cyflwyniad i’r Astudiaethau Achos Dethol t.20
  • Ein Cyfranwyr t.34
  • Cwrdd â’r Tîm! t.50
  • Seminarau Misol y Prosiect t.55
  • Gwybodaeth Bellach a Darllen t.57
  • Diolchiadau t.59

Awduron:  Perminder Dhillon, Radha Patel, Sai Giridhar, Robin Chaddah-Duke, Jyoti Ramjee & Nicola Roberts 

  •  Dyddiad Cyhoeddi: 21 Tachwedd 2024
  • Tudalennau: 61
  • Lluniau: 78
  • ISBN: 978-1-871184-70-9