Darganfod Bryngaer Pendinas, Penparcau, Aberystwyth (eLyfr)
            
              Pris arferol
              
              
                
                  £0.00
                
                Sêl
              
            
          
Llyfr dwyieithog yw hwn
Mae’r llyfr hwn yn dathlu drwy nifer o ddarluniadau gwaith Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas (2022–24) a grëwyd er mwyn darganfod mwy am y fryngaer drawiadol hon o’r Oes Haearn, sy’n nodwedd mor amlwg o’r tir uwchlaw Penparcau, Aberystwyth. Roedd gweithgareddau niferus y prosiect yn cynnwys gwaith cloddio, sgyrsiau, teithiau cerdded tywysedig, gweithio gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol a chlirio eithin ar draws ardal helaeth, yn ogystal â dwy Ŵyl Archaeoleg Pendinas a murlun mewn ysgol!
Roedd Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas yn brosiect partneriaeth dwy flynedd (2022–24) rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gyda chymorth ychwanegol gan Cadw.
Cynnwys
- Rhagair gan Ben Lake AS 3
 - Penparcau Cyn Hanes: Darganfod Pendinas! 5
 - Pendinas: Prifddinas Hynafol Canolbarth Cymru 8
 - Cyn Bryngaer Pendinas 11
 - Y Geredigion Geltaidd 13
 - Cloddio Pendinas 20
 - Byddin o Wirfoddolwyr 40
 - Ar ôl y Fryngaer 44
 - Mapio Pendinas 45
 - Cofgolofn Wellington 48
 - Creu Lle i Fyd Natur 51
 - Y Genhedlaeth Nesaf: Gweithio gydag Ysgol Llwyn yr Eos 54
 - Cael Gwybod Mwy! 57
 - Llinell Amser 60
 
• Awdur: Toby Driver & Ken Murphy
 Beca Davies, Jon Dollery, Luke Jenkins, Chloe Griffiths & Nicola Roberts
• Dyddiad Cyhoeddi: 27 July 2024
• Tudalennau: 60
• Lluniau: 60
• ISBN: 978-1-871184-68-6