CHERISH - Rhannu ein Harferion: Ymchwilio i Dreftadaeth a Newid Hinsawdd mewn Amgylcheddau Arfordirol Morol (eBook)

CHERISH - Rhannu ein Harferion: Ymchwilio i Dreftadaeth a Newid Hinsawdd mewn Amgylcheddau Arfordirol Morol (eLyfr)

Pris arferol £0.00 Sêl

Mae’r llyfr hwn hefyd ar gael yn Saesneg:
Investigating Heritage and Climate Change in Coastal and Maritime Environments (eBook)

Canllaw i Becyn Adnoddau PROSIECT CHERISH ar gyfer ymchwilio i safleoedd sydd mewn perygl.

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllaw i ‘becyn adnoddau’ CHERISH, sef y dulliau a ddefnyddiwyd gan brosiect newid hinsawdd a threftadaeth arfordirol CHERISH a gyllidwyd gan yr UE rhwng 2017 a 2023 i fonitro a deall effeithiau newid hinsawdd ar safleoedd treftadaeth a thirweddau yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos ar hyd arfordiroedd ac ym moroedd Cymru ac Iwerddon.

Yn dilyn cyflwyniad i’r prosiect, mae Adran 2 yn canolbwyntio ar y 15 dull unigol o fewn ‘pecyn adnoddau’ CHERISH, gan ddarparu trosolwg a dadansoddiad ar draws cyfres safonol o feini prawf, ynghyd ag astudiaethau achos o safleoedd astudio CHERISH. Mae Adran 3 yn dod â’r ‘pecyn adnoddau’ at ei gilydd gyda throsolwg gweledol o’r holl ddulliau i helpu i arwain defnyddwyr a phenderfyniadau, gan orffen gyda dwy astudiaeth achos terfynol sy’n arddangos y ‘pecyn adnoddau’ integredig ar waith.