Pembrokeshire: Historic Landscapes from the Air

Pembrokeshire: Historic Landscapes from the Air

Pris arferol £29.95 Sêl

Dim ond yn yr iaith Saesneg y mae'r llyfr hwn ar gael.

Mae tirweddau hanesyddol Sir Benfro gyda’r mwyaf amrywiol a diddorol ym Mhrydain. Ar hyd glannau trofaus y sir hon ym mhen draw gorllewin Cymru, sir sydd â dyfroedd Môr Iwerddon ar dair ochr iddi, y ceir olion rhai o’r aneddiadau hynaf ym Mhrydain. 

Mae cannoedd o safleoedd hanesyddol Sir Benfro o’r golwg am eu bod ar dir preifat, ar gopaon a chlogwyni nad oes modd eu cyrraedd, neu wedi’u claddu gan ganrifoedd o droi’r tir. O’r awyr yn unig y mae gwerthfawrogi holl hyd a lled treftadaeth gyfoethog y sir. Mae’r persbectif newydd hwn yn dadlennu henebion cudd ac yn fodd i ni gael cipolwg unigryw ar y rhai mwy cyfarwydd. 

Yn y llyfr newydd a phwysig hwn ceir llu o awyrluniau diweddar, awyrluniau hanesyddol o gyfnod y ddau Ryfel Byd, arolygon a mapiau archaeolegol, adluniadau a lluniau ‘rhithwir’ – sydd heb eu gweld o’r blaen – o dirweddau archaeolegol y sir, ac mae’n adrodd stori Sir Benfro a’i phobl o’r cyfnodau cynharaf hyd y gorffennol diweddar iawn. Fe welwch chi awyrluniau’r Comisiwn Brenhinol o Sir Benfro bob mis yn y cylchgrawn 'Pembrokeshire Life'.

 

Awdur Toby Driver, 2007
Clawr Meddal & Caled
Maint 245 x 255mm
Tudalennau 286
Darluniau 379
ISBN 9781871184297 Caled -  9781871184334 Meddal
Cludiant £0.00