Painted Temples: Wallpaintings and Rood-screens in Welsh Churches, 1200–1800

Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800

Pris arferol £29.95 Sêl

Llyfr dwyieithog yw hwn. 

Gan Gymru y mae rhai o’r eglwysi mwyaf trawiadol o ddiwedd yr Oesoedd Canol yng ngwledydd Prydain. Eglwysi ydynt a oroesodd helyntion degawdau’r Diwygiad Protestannaidd a’r Rhyfel Cartref a diogelu enghreifftiau nodedig o groglenni a thoeau, yn ogystal â murluniau a gafodd eu cuddio dan haenau o wyngalch.


Yn y llyfr awdurdodol hwn, mae Richard Suggett yn ein tywys ni drwy hanes codi eglwysi yng Nghymru yn ystod y cyfnod o ryw gan mlynedd cyn y Diwygiad Protestannaidd pryd y rhoddwyd i lawer eglwys y ffurf sydd iddi heddiw. Mae’n trafod y ffactorau a effeithiodd ar oroesiad nodweddion canoloesol ac yn defnyddio ffynonellau dogfennol, gan gynnwys y cyfoeth o farddoniaeth Gymraeg o’r cyfnod, i ddatgelu’r hyn a wyddom ni am y crefftwyr a fu wrthi’n addurno’r adeiladau hynny, y noddwyr a’u comisiynodd, a’r ystyron y tu ôl i’r gweithiau peintiedig.


Mae’r llyfr yn cynnwys dadansoddiadau manwl o ddwy eglwys addurnedig sydd o bwys cenedlaethol – Llancarfan, ym Mro Morgannwg, a Llandeilo Tal-y-bont, sydd bellach wedi’i hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Lluniwyd y dadansoddiadau gan yr arbenigwyr a ddadlennodd y dilyniannau pwysig o furluniau ynddynt. Disgrifir hanes yr addurno peintiedig wedi’r Diwygiad Protestannaidd, adeg a welodd ddisodli’r delweddau peintiedig gan eiriau peintiedig yn Gymraeg a Saesneg a chan yr Arfbais Frenhinol – y mynegiant gweledol o’r berthynas newydd rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth. Testun epilog yw ailddarganfod lliwiau’r eglwys ganoloesol gan bersoniaid hynafiaethol eu bryd yn gynnar yn oes Victoria.


Yn y rhestr ar y diwedd ceir rhestr lawn o’r murluniau, y testunau a’r Arfbeisiau Brenhinol sy’n goroesi, a’r rhai sydd ar goll. Dyma lyfr hanfodol, felly, i’r sawl sy’n ymddiddori mewn adeiladau eglwysig yng Nghymru a thu hwnt, ac fe anogir ei ddarllenwyr i ymweld â’r adeiladau hyfryd hynny a phrofi o’u naws. Mae’r wybodaeth ynddo wedi’i chasglu dros flynyddoedd maith gan y Comisiwn Brenhinol ac fe gynhwysir yma amryw byd o ffotograffau a lluniadau trawiadol a gyhoeddir am y tro cyntaf.

Richard Suggett, FSA, FLSW, yw Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol) Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Cynnwys

  • Rhagair: Y Gwir Barchedig Dr Rowan Williams
  • Rhagymadrodd a diolchiadau

Pennod 1: Yr ailadeiladu mawr ar eglwysi yn yr Oesoedd Canol diweddar

Pennod 2: Croglenni a chroglofftydd

Pennod 3: Murluniau tua diwedd yr Oesoedd Canol

Pennod 4: Astudiaeth achos: Llancarfan, gan Jane Rutherfoord

Pennod 5: Astudiaeth achos: Llandeilo Tal-y-bont, gan Anthony J. Parkinson

Pennod 6: Murluniau a pheintwyr o’r Diwygiad Protestannaidd hyd y Rhyfel Cartref

Pennod 7: Peintwyr a murluniau: o’r Adferiad hyd y Rhaglywiaeth

Pennod 8: Ailddarganfod lliwiau

  • Nodiadau a chyfeiriadau
  • Rhestr o’r safleoedd, y ffynonellau, a mynegai
  • Rhestr o’r lluniau a’r ffynonellau


AwdurRichard Suggett, Anthony J. Parkinson, Jane Rutherfoord, 2021
ClawrHardback
Maint340 x 245mm
Tudalennau384
Lluniau251
ISBN978-1-871184-58-7