Darganfod Tai Hanesyddol Eryri - Discovering the Historic Houses of Snowdonia
Pris arferol
£29.95
Sêl
Llyfr dwyieithog yw hwn.
Mae tai annedd a chartrefi Cymru yn wrthrychau o ddiddordeb a chwilfrydedd di-ben-draw i berchnogion, trigolion, teithwyr, a darllenwyr, ac yn fwy diweddar i gynhyrchwyr cyfresi teledu a’u gwylwyr. A dydy hi ddim yn anodd deall pam. Mae adeiladau hanesyddol a henebion o bob math yn olion materol cadarn o ddiwylliant a chymdeithas ein rhagflaenwyr a’n hynafiaid o bob dosbarth cymdeithasol. Fel arfer maen nhw wedi eu hadeiladu o ddeunyddiau lleol sy’n adnoddau naturiol cynhenid i ardal neu ranbarth ac felly wedi dod dros y canrifoedd yn rhan o amgylchedd adeiledig bro a thref, ac yn wir yn arwyddluniau o’r gymdeithas. Wedi eu lleoli yn solet mewn man dewisol penodol yn nhirwedd y wlad daethant yn fodd i harddu’r tirlun naturiol, tra ar yr un pryd yn nodwedd weledol i hysbysu eraill o statws eu perchnogion megis yr arfbeisiau lliwgar oedd yn harddu eu muriau. Drwy’r holl atgynhyrchiadau o luniau a disgrifiadau ohonynt ymhob cyfrwng dros gyfnod, gwnaethant gyfraniad unigryw i greu synnwyr o le ac o fwynderau lleoliad. Ychwaneger at hynny'r enwau disgrifiadol o’u lleoliad ac o’u ‘mawredd’ yn nhyb y rhai a’i hadeiladodd sy’n dynodi’r tai, a daw’r cylch diwylliannol yn grwn.
Awdur | Margaret Dunn, Richard Suggett, 2014 |
Clawr | Caled |
Maint | 240 x 270mm |
Tudalennau | 295 |
Darluniau | 225 |
ISBN | 9781871184532 |