Arteries of Sustainable Industry: The Swansea Canal and its Early Railways
Rhanbarth Abertawe oedd un o dirweddau diwydiannol dwys cyntaf y byd modern, ac ynghanol y dirwedd honno yr oedd Camlas a awdurdodwyd gan Ddeddf Seneddol (1794) ac a oedd yn darparu system drafnidiaeth a alluogodd gyfres o ddiwydiannau rhyngwladol i ddatblygu a ffynnu – copr, haearn a dur, tunplat, a glo. Y ddyfrffordd hon oedd gwythïen ganolog system gylchredol fwy o faint a oedd yn cynnwys rhwydwaith rheilffyrdd a ddefnyddiai amrywiaeth o locomotifau stêm cynnar. Mae’r llyfr hwn yn olrhain hanes a phwysigrwydd y Gamlas a ymestynnai am dros 16 milltir (26 chilomedr) o borthladd Abertawe i Aber-craf. Mae hanes newydd Camlas Abertawe yn llyfr fformat mawr, sy’n cynnwys dros 300 o dudalennau. Mae ynddo ddarluniau hardd sy’n cynnwys dros 100 o rai a baratowyd yn arbennig gan yr awdur, sy’n ail-greu golygfeydd ac sy’n dangos sut yr oedd y Gamlas yn edrych yn wreiddiol a sut yr oedd yn gweithredu.
Awdur | Stephen Hughes, 2023 |
Clawr | Hardback |
Maint | 222 x 285 |
Tudalennau | 328 |
Darluniau | 564 |
ISBN | 978-1-871184-65-5 |